Mae Menter a Busnes wedi agor ail swyddfa yn Yr Atom yng Nghaerfyrddin.
Maent wedi bod yn denant yn y ganolfan ers mis Awst 2019, pan benderfynodd y cwmni symud i’r Atom gan ei fod yn lleoliad gwych i sefydlu swyddfa - yn gyfleus i’r dref, ac yn ganolbwynt i ddigwyddiadau a gweithgareddau Cymraeg Caerfyrddin.
Canolfan ar gyfer dysgu, ymarfer a hyrwyddo’r Gymraeg yw’r Atom ac yn ogystal â bod yn lleoliad ar gyfer cynnal gweithgareddau i bob oed, gan gynnwys gwersi Cymraeg fel rhan o arlwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, cyfarfodydd wythnosol sefydliadau megis Merched y Wawr ac Adran Ffynnon Ddrain, mae Yr Atom hefyd yn gartref i nifer o sefydliadau a busnesau megis Menter Gorllewin Sir Gâr; Cylch Meithrin Myrddin ac Arwerthwyr tai Evans Bros ar Stryd y Brenin.
Yn dilyn twf diweddar Menter a Busnes a phenodi staff newydd, daeth i’r amlwg bod nifer fawr yn byw ac yn gweithio o ardal de orllewin Cymru, a Chaerfyrddin fyddai’r swyddfa agosaf i nifer fawr o’r rheiny. Mae Menter a Busnes yn gwmni annibynnol, nid er elw, sy’n cefnogi unigolion, busnesau a sefydliadau yng Nghymru i ddechrau a datblygu eu busnesau. Maent hefyd yn darparu gwasanaethau ymgynghorol yn ymwneud â materion datblygu economaidd yng Nghymru a thu hwnt, gyda staff ymroddgar sy’n blaenoriaethu darparu gwasanaethau o’r safon uchaf posib.
Gwelwyd cynnydd yn y nifer o staff a oedd yn dymuno defnyddio’r swyddfa, ac wrth fod angen mwy o ofod yng Nghaerfyrddin, roedd yn gam naturiol i ehangu presenoldeb y cwmni yn Yr Atom. Erbyn hyn mae 28 aelod o staff yn gweithio o’r swyddfa.
Mae’r cwmni wedi canmol Yr Atom fel lleoliad Cymreig sydd â gofod croesawgar gyda chwmnïoedd eraill sy’n ganolbwynt i ddiwylliant ac economi’r dref.
Dywedodd Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Menter a Busnes:
“Mae’n bleser gennym gyhoeddi ehangu ein presenoldeb yn Yr Atom, Caerfyrddin. Mae’r ymrwymiad hwn yn adlewyrchu’r effaith gadarnhaol y mae’r Atom wedi’i chael ar ein gweithrediadau a’n hyder yn ei thwf parhaus fel canolbwynt ar gyfer arloesi a chydweithio. Bydd y gofod estynedig yn cynnig lleoliad gwych ar gyfer ein tîm cynyddol yn Ne-orllewin Cymru.”
Nododd Caryl Jones, Rheolydd Yr Atom:
“Mae’n wych i weld tîm Menter a Busnes yn ehangu yma yng Nghaerfyrddin ac wedi agor ail swyddfa yma yn Yr Atom. Mae’n hyfryd i weld cysylltiadau newydd yn blaguro rhwng y tenantiaid ac edrychwn ymlaen at gydweithio ymhellach gyda Menter a Busnes yn y dyfodol.”
コメント